Friday, March 1, 2013

Dydd Gwyl Dewi Hapus

Dewi Sant
Stained glass window in Jesus College Chapel,
Oxford, showing St David. Late 19th century

OK, as it's St. David's Day, this is my first posting principally in Welsh, and because I haven't yet mastered the language, I count this as a guest post from Cymraeg Wikipedia. Try Google translate and see how it comes out:

Dewi Sant (bl. 6ed ganrif; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.

Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santesNon a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.
Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.

Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.

Yn ôl traddodiad bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589 yn ôl Rhigyfarch[2] - a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo yn hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'rpaganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus).

Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd.

Cyfeiriadau

Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Dewi Sant.
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Dewi Sant.

No comments:

Post a Comment

Comments are welcome. Feel free to disagree as many do. You can even be passionate (in moderation). Comments that contain offensive language, too many caps, conspiracy theories, gratuitous Mormon bashing, personal attacks on others who comment, or commercial solicitations- I send to spam. This is a troll-free zone. Charity always!